GOV.UK - Accessibility statement

Datganiad hygyrchedd

Hygyrchedd

Mae DVLA wedi ymrwymo i wneud y wefan hon yn hygyrch yn unol â Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff y Sector Cyhoeddus (Cymwysiadau Gwefan a Symudol) (Rhif 2) 2018.

Mae’r wefan hon wedi’i datblygu i gydymffurfio â lefel AA Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys Gwe 2.1 y Fenter Hygyrchedd Gwe (WAI) (WCAG 2.1). Y canllawiau hyn yw'r meincnod a gydnabyddir yn rhyngwladol ar gyfer adeiladu gwefannau hygyrch.

Cydnawsedd ag offer

Mae’r wefan wedi’i dylunio i fod yn hygyrch i amrywiaeth o ddarllenwyr sgrin a dyfeisiau cynorthwyol, gan gynnwys:

  • JAWS
  • NVDA
  • VoiceOver

Mae'r wefan hefyd wedi'i dylunio i fod yn gydnaws â:

  • chwyddwydrau sgrin system weithredu sylfaenol, megis ZoomText 11
  • meddalwedd adnabod lleferydd, megis Dragon Naturally Speaking

Beth i'w wneud os na allwch gyrchu rhannau o'r wefan hon

Er ein bod yn profi'n rheolaidd efallai y byddwch yn dod o hyd i broblemau sy'n eich atal rhag defnyddio ein gwefan.

Os ydych chi'n cael anhawster cyrchu unrhyw ran o'r wefan hon, ffoniwch ni ar 0300 300 2079, o ddydd Llun i ddydd Gwener, 8am i 5pm.

Cael gwybod am gostau galwadau

Cael help

Mae AbilityNet yn rhoi arweiniad ar sut i:

Rhoi gwybod am broblem ynghylch hygyrchedd y we

Rydym bob amser yn ceisio gwella hygyrchedd y wefan hon. Os byddwch yn dod o hyd i unrhyw broblemau neu faterion wrth ddefnyddio ein gwefan neu’n meddwl nad ydym yn bodloni gofynion hygyrchedd.

Gweithdrefn orfodi

Mae’r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol (EHRC) yn gyfrifol am orfodi Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff y Sector Cyhoeddus (Gwefannau a Chymwysiadau Symudol) (Rhif 2) 2018 (y ‘rheoliadau hygyrchedd’). Os nad ydych yn fodlon ar y ffordd rydym yn ymateb i’ch cwyn, yn, cysylltwch â’r Gwasanaeth Cynghori a Chymorth Cydraddoldeb (EASS).

Paratowyd y datganiad hwn ar 14 Ebrill 2020. Fe’i diweddarwyd ddiwethaf ar 14 Ebrill 2020.