Adrodd Am Gerbyd Heb Ei Drethu
Os ydych yn dymuno adrodd am gerbyd sy’n ymddangos ei fod heb ei drethu ac sy'n cael ei ddefnyddio neu’i gadw ar y ffordd, gallwch roi gwybod inni gan ddefnyddio’r ffurflen hon.
Pwysig: Defnyddiwch y ffurflen hon dim ond i adrodd am gerbyd sy'n ymddangos ei fod heb ei drethu ac yn cael ei ddefnyddio neu’i gadw ar y ffordd. Cysylltwch â DVLA os oes gennych ymholiad am eich trwydded yrru neu gerbyd.
Rheoliadau diogelu data
Mae DVLA yn trafod eich data personol yn unol â chyfraith cerbydau ffyrdd a chyfreithiau gwarchod data. Mae’r gyfraith yn caniatáu inni ryddhau eich data i’r heddlu a chyrff gorfodi eraill. Rydym hefyd yn darparu data i gwmnïau eraill ble y mae’r gyfraith yn ei ganiatáu. Am wybodaeth bellach am sut rydym yn prosesu eich data, eich hawliau a phwy i gysylltu ȃ nhw, gweler ein polisi preifatrwydd.